Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2023

Amser: 09.01 - 09.25
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Lesley Griffiths AS

Darren Millar AS

Siân Gwenllian AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru

Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

 

Gofynnodd Siân Gwenllian bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn ymhellach yr amser a ddyrannwyd i'r datganiad uchod , yn sgil y pwysau a welwyd ar y GIG dros gyfnod y Nadolig. Nododd y Llywydd y byddai'n hyblyg o ran yr amseriadau er mwyn sicrhau bod modd galw nifer digonol o'r Aelodau i wneud cyfraniadau.

 

 

Dydd Mercher 

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i’r amserlen:

 

Dydd Mawrth 24 Ionawr 2023

 

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwella Ysgolion a'r Dirwedd Wybodaeth (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 – Canlyniadau o ran y Gymraeg (30 munud)

·         Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)

·         Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 (15 munud)

 

Ystyriodd y Pwyllgor nodyn ar y strwythur ac amseriad ar gyfer gwrandawiad cyntaf dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil Cydgrynhoi - Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer dydd Mawrth 17 Ionawr.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen:

 

Dydd Mercher 1 Chwefror 2023 -   

 

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid i graffu arnynt, a gofynnod i'r pwyllgorau adrodd erbyn dydd Llun 23 Ionawr 2023 i alluogi'r rheoliadau i gael eu hystyried gan y Senedd ddydd Mawrth24 Ionawr 2023. 

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:

 

 

 

</AI9>

<AI10>

4.3   Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r pryderon a fynegir mewn perthynas â hwyluso amserlen Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Nododd y Llywydd ei bod wedi cwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ym mis Rhagfyr a chytunodd y bydd swyddogion yn drafftio adroddiad i’r Pwyllgor Busnes yn manylu ar y gwersi a ddysgwyd o'r broses graffu ar y Bil hwn, y gellir cyfeirio atynt pe bai unrhyw gais yn y dyfodol am hwyluso amserlen i graffu ar Fil.

 

</AI10>

<AI11>

4.4   Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r pryderon a godir gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y goblygiadau posibl i'r Pwyllgor hwnnw, a busnes y Senedd, a allai godi o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a gyflwynwyd yn Senedd y DU.

 

Awgrymodd Darren Millar y gallai'r Pwyllgor Busnes fod am ystyried sefydlu pwyllgor ychwanegol er mwyn ymateb i bryderon ynghylch capasiti craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fonitro datblygiadau a chynnal deialog gyda Llywodraeth Cymru, gan gadw pob opsiwn ar agor.

 

</AI11>

<AI12>

4.5   Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar y Bil a chytunodd i ymateb i dderbyn y ddau argymhelliad a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Busnes.

 

 

</AI12>

<AI13>

4.6   Papur i’w nodi - gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau a chytunodd i aros am ymateb pellach gan y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Cyllid cyn rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r arfer o bleidleisio ar y cynnig ynghylch y Penderfyniad Ariannol ar gyfer Biliau ar yr un diwrnod â dadl Cyfnod 1.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>